Adroddiad atodol: SL(5)190 - Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer darpariaethau amrywiol Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a Deddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 i gael eu cymhwyso i waith ymchwilio i droseddau a gaiff ei wneud gan Awdurdod Cyllid Cymru ("yr Awdurdod”).  Maent yn cynnwys cael mynediad i adeiladau o dan amgylchiadau penodedig ac ymafael mewn eitemau perthnasol.

Ceir esboniadau o'r pwerau unigol yn y Nodyn Esboniadol a'r Memorandwm Esboniadol.  Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig ar 21 Chwefror 2018 a gyfeiriodd at yr ymgynghoriad ar y pwerau a'r penderfyniadau a wnaethpwyd.

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth [link] a chyflwynodd adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt rhinweddau a nodwyd.

Fodd bynnag, yn ystod ei ystyriaeth, cytunodd y Pwyllgor i gynnwys pwynt arall ar gyfer adrodd yn ymwneud ag anghysondeb rhwng y rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod yn rhaid i'r Awdurdod gydymffurfio â chodau ymarfer statudol, ond ein dealltwriaeth ni yw mai dim ond rhoi sylw i'r cod sydd ei angen, a dim ond dyletswydd i roi sylw i ddarnau perthnasol o'r cod hwnnw (gweler adran 67(9) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 ). Mae gwahaniaeth pwysig rhwng gorfod cydymffurfio â rhywbeth a rhoi sylw iddo. Dylai Llywodraeth Cymru egluro'r sefyllfa ac, os oes angen, sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau yn cael eu cywiro.

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn yn y cyswllt hwnnw.

Ymateb Atodol y Pwyllgor

Bydd y Pwyllgor am fod yn ymwybodol bod y Memorandwm Esboniadol wedi'i ddiwygio i adlewyrchu sylwadau yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Mae'r Pwyllgor yn diolch i Lywodraeth Cymru am ei hymateb ac yn croesawu'r newidiadau a wnaed i'r Memorandwm Esboniadol.